Gogledd Cymru
Mae Tŷ Mesen yn gartref plant rheoledig yng Ngogledd Cymru ac mae wedi’i gofrestru dan Harbour Children’s Services Ltd.
Gallwn letya hyd at 4 o blant, rhwng 8-18 oed.
Mae’n dŷ ar wahân ac mae ganddo 4 ystafell wely, cegin, ystafell fwyta, ystafell gemau, ystafell dawel/gweddïo, ystafell teulu a ffrindiau, lolfa deledu a patio caeedig a gardd.
Yn Nhŷ Mesen, rydym yn ystyried plant ag ystod o anghenion a byddwn yn gwneud ein hasesiad yn seiliedig ar gyfateb anghenion y plentyn ac anghenion plant sydd eisoes wedi’u lleoli. Ein nod yw cael y canlyniadau gorau posibl i bob plentyn; felly mae’r broses baru yn hollbwysig wrth ystyried anghenion gofal er mwyn sicrhau y gallwn eu bodloni i safon gyson uchel.
Rydym yn darparu ymagwedd therapiwtig mewn amgylchedd gofalgar a meithringar. Rydym yn rhoi cymorth therapiwtig ar gontract allanol gan wasanaethau eraill ac yn cynnig pecynnau gofal, wedi’u teilwra i bob plentyn unigol.
Rydym yn deall pwysigrwydd meithrin perthynas a datblygu ymddiriedaeth gyda’r plant er mwyn iddynt deimlo’n ddiogel yn eu hamgylchedd cartref. Rydym yn darparu cyfleoedd, adnoddau a chefnogaeth i bob plentyn er mwyn hwyluso newid parhaol.